Menu
YSGOL GYMRAEG TIRDEUNAW - 'O'r fesen, derwen a dÿf'
Home Page

Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw

O’r fesen derwen a dŷf

Croeso/Welcome

Croeso i Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw.

Lleolir Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw yn ardal Treboeth, ar gyrion dinas Abertawe. Mae’r ysgol yn un benodedig Gymraeg a daw’r disgyblion o’r ardal leol a’r cyffuniau. Agorwyd yr ysgol yn 1994, yn dilyn y galw am fwy o ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir. Profwyd hyn yn wir, gan i’r ysgol ddechrau â 18 o ddisgyblion ar ei diwrnod cyntaf, ond sydd bellach wedi gweld twf aruthrol, ac erbyn hyn mae dros 490 o blant ar y gofrestr.

 

Mae Ysgol Gymraeg Tirdeunaw yn ysgol glos a chyfeillgar, ac rydym yn ymfalchio yn y berthynas ofalgar a chefnogol sy’n bodoli rhwng ein staff, disgyblion, rhieni a’r llywodraethwyr. Dymunwn fel ysgol gyflwyno addysg gyflawn i’r plant o fewn awyrgylch hapus, ysgogol a diogel. I’r diben hwn ceisiwn ysbrydoli’r plant trwy seilio eu haddysg ar iaith, crefydd, diwylliant a threftadaeth Cymru, a chreu ymwybyddiaeth gref o Gymreictod ac ennyn balchder yn ein hiaith yng nghalon pob plentyn.

 

Mae pob plentyn yn unigolyn â’i anghenion, ei dalentau a’i syniadau ei hun a’r hawl i gyfleoedd cyfartal. Mae’n ddyletswydd arnom felly i sicrhau fod pob unigolyn o fewn ein hysgol yn cael y cyfle gorau posibl i ddatblygu i’w lawn neu’i llawn botensial ac yn cael eu cyflwyno i nifer fawr o brofiadau ystyrlon ac yn mwynhau llwyddiant hyd eu heithaf. Braint yw medru darpau addysg o’r safon uchaf ar gyfer ein disgyblion.

 

Ymfalchïwn yn safonau cyrhaeddiad uchel yr ysgol, ac mae’r ystod eang o weithgareddau allgyrsiol hefyd yn bwysig i ni, gyda disgyblion yn profi llwyddiant mewn amrywiol feysydd o Eisteddfodau’r Urdd i fyd chwaraeon a chelf.

 

Pennaeth - Jackie James

 

Top