Menu
YSGOL GYMRAEG TIRDEUNAW - 'O'r fesen, derwen a dÿf'
Home Page

Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw

O’r fesen derwen a dŷf

Trosglwyddo i'r uwchradd / Transition to secondary education

Pontio o Ysgol Gymraeg Tirdeunaw i Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe

Mae cryn dipyn o baratoi ymlaen llaw yn digwydd er mwyn sicrhau trosglwyddiad didrafferth o’r cyfnod Cynradd yma yn Nhirdeunaw  i’r Cyfnod Uwchradd yn Ysgol Gymraeg Bryntawe. Yn wir, mae’n rhan o bolisi’r ysgol i sefydlu nifer helaeth o gysylltiadau gyda’r ysgolion  partner gan fod trosglwyddo’n gallu golygu newid dramatig i lawer o ddisgyblion. Rydym yn awyddus i gydweithio'n agos a YG Bryntawe fel eu bod nhw'n dod i adnabod disgyblion Bl6 yn dda cyn iddynt gyrraedd Bryn Tawe, ac er mwyn iddynt ymgartrefu’n gyflym.

Mae disgyblion yr ysgol yn treulio cyfnodau ym Mryn Tawe yn ystod Blwyddyn 6 yn dysgu drwy weithgareddau amrywiol gyda ffrindiau a chyfoedion hen a newydd. Gallai’r ymweliadau hyn er enghraifft gynnwys gwersi animeiddio yn yr adran TGCh, prosiect gwyddoniaeth, cystadleuaeth menter, sesiynau sgiliau chwaraeon neu wersi ‘rhagflas’ mewn iaith dramor fodern. Yn fwy ffurfiol, bydd amserlen gyflwyno wedi’i threfnu dros y flwyddyn flaenorol cyn eu trosglwyddo a fydd yn cynnwys y digwyddiadau isod.

 

Hydref

Staff a disgyblion Bryn Tawe yn ymweld ag ysgolion cynradd i gyflwyno gwybodaeth am fywyd ym Mryn Tawe. Gyda’r nos – sesiynau ar gyfer rhieni, i’w cynnal yn yr ysgolion cynradd.

Tachwedd

Gweithdai sgiliau allweddol ar gyfer Blwyddyn 6. Diwrnodau Agored ym Mryn Tawe ar gyfer rhieni Blwyddyn 6 (fesul ysgol gynradd)

Mawrth

Ymweliadau gan staff Bryn Tawe i gasglu gwybodaeth ar bob disgybl ym mlwyddyn 6. Diwrnod Entrepreneuriaeth ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6.

Mehefin

Gweithdai ar gyfer disgyblion Mwy Abl a Thalentog. Noson rhieni-sesiwn holi ac ateb.

Gorffennaf

Wythnos Bontio:

  • Dydd Llun – Diwrnod o wersi sampl ar gyfer Blwyddyn 6;
  • Dydd Mawrth - diwrnod o weithgareddau awyr agored / datrys problemau.
  • Dydd Mercher Dydd Gwener y cwrs pontio yn Llangrannog.
  •  

Gosod disgyblion mewn dosbarthiadau

Ar ôl cywain y wybodaeth fanwl o’r ysgolion cynradd partner, bydd staff YG Bryntawe  yn gosod disgyblion mewn dosbarthiadau gyda’r nôd o gynnal cydbwysedd yn ôl y meini prawf canlynol:

  • grwpiau cyfeillgarwch
  • personoliaeth a diddordebau
  • rhyw
  • gallu a chyflawniad
  • cefndir ieithyddol
  • cyngor gan staff yr ysgolion cynradd

 

 

Transfer of pupils from YGG Tirdeunaw to YGG Bryntawe

A great deal of preparation is made beforehand to ensure a smooth a transition for our pupils from Tirdeunaw to YG Bryntawe. We are very aware that transition from Primary school can mean quite a dramatic change for many pupils, therefore, YG Bryntawe are very keen to get to know their partner Primary school pupils well before they arrive at Bryn Tawe, so that they settle in as quickly as possible.

As part of our successful transition programme year 6 pupils will visit Bryn Tawe throughout their last year at the school  on varied activities related to learning and socialising with colleagues and pupils from all the primary schools. These involve animation, science and food technology lessons, an entrepreneurial competition, sport skills sessions and team building activities, “taster” lessons in a range of subjects and the transition residential course to Llangrannog. You will receive a timetable of all the activities and dates as part of our transition programme.

 

October

Bryn Tawe staff and pupils visit primary schools to share information about the school. Parents’ evenings are held at the primary schools for us to introduce life at Bryn Tawe.

November

Practical skills for year 6 pupils. Open mornings at Bryn Tawe for year 6 parents (for each primary school).

March

Bryn Tawe staff will visit each primary school to collect and discuss information on every Yr 6 pupil. Entrepreneurship Day for Year 6 pupils.

June

More Able and Talented day. Parents’ evening – question and answer session.

July

Transition Week

  • Monday a day of sample lessons for Year 6 at Bryn Tawe
  • Tuesday problem solving and adventurous activities
  • Wednesday – Friday : Our Transition Course at Llangrannog

 

Allocating pupils to classes

After gathering the detailed information from our partner primary schools, pupils are placed in classes with the aim of maintaining a balance in terms of the following criteria:

  • friendship groups
  • personality and interests
  • gender
  • ability and achievement
  • linguistic background
  • advice given by primary school staff
Top