GOLCHI DWYLO / WASHING HANDS
Dengys ffigurau y gall plant gael annwyd dair gwaith yn amlach nag oedolion a gallant gael anhwylder stumog cymaint â thair gwaith y flwyddyn. Mae nifer o resymau am hyn. Tan y byddant yn bump oed mae eu hamddiffyniad naturiol, drwy’r system imiwnedd, yn dal i ddatblygu. At hynny, mae plant yn dueddol o gyffwrdd â’i gilydd yn aml (wrth chwarae, er enghraifft) ac o ganlyniad mae germau yn lledaenu’n haws rhwng plant nag ydynt rhwng oedolion.
Sut mae germau’n lledaenu?
Gall germau fel yr annwyd cyffredin ledaenu’n hawdd o gwmpas ein hysgolion a’n cartrefi. Ein dwylo sydd ar fai yn aml! Bob tro y byddwn yn cyffwrdd â rhywbeth neu rywun, rydym yn trosglwyddo germau i ac o’r arwynebedd neu’r unigolyn hwnnw. Er na allwch stopio plant rhag cael germau wrth iddynt chwarae neu goginio, gallwch leihau’r risg o ledaenu haint drwy ddilyn rhai awgrymiadau hylendid syml.
Gwnewch hylendid yn arferiad
Un o’r pethau pwysicaf y gallwch ddysgu i’ch disgyblion yw sut a phryd i olchi eu dwylo. Gwneud yn siwr eich bod yn gwneud hynny yn iawn eich hun yw un o’r ffyrdd gorau i annog hynny. Mae astudiaethau yn dangos bod y plant sydd yn golchi eu dwylo ar yr adegau priodol yn colli llai o ysgol oherwydd salwch na’r rhai nad ydynt yn golchi eu dwylo.