Mae'r Cynllun Ysgolion Heddwch yn cefnogi ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru i ddatblygu dysgwyr yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus ac yn unigolion iach, hyderus. Trwy'r cynllun, mae dysgwyr yn datblygu sgiliau hanfodol fel meddwl beirniadol, datrys problemau, creadigrwydd ac empathi ac yn cymryd rhan mewn dysgu trawgwricwlaidd a phrosiectau cyffrous dan arweiniad disgyblion.
The Peace Schools Scheme supports primary and secondary schools in Wales to develop learners as ethical, informed citizens and healthy, confident individuals. Through the scheme, learners develop essential skills such as critical thinking, problem solving, creativity and empathy and take part in cross-curricular learning and exciting pupil-led projects.
Lefel 1 / Level 1
Yn 2019, llwyddom ni i ennill statws Ysgolion Heddwch Cymru. Rydym yn falch o'n gwaith ac yn parhau i weithio'n galed i ymgorffori heddwch ar draws pob agwedd o'n cwricwlwm. Gwyliwch ein cyflwyniadau ar gyfer ennill statws Lefel 1:
In 2019, we successfully gained Peace Schools status. We are proud of our work and continue to work hard to incorporate peace across all aspects of our curriculum. Watch our presentations on gaining Level 1 status:
Lefel 2 a 3 / Level 2 & 3
Mae elfennau allweddol cynllun Ysgolion Heddwch yn cynnwys:
* agwedd ysgol gyfan
* dysgwyr yn cymryd rhan weithredol yn y cynllunio a'r gweithredu yn yr ysgol
* cefnogi dysgwyr i archwilio heddwch fel thema ar draws y cwricwlwm, ynghyd â gweithgareddau allgyrsiol
* deall treftadaeth heddwch Cymru, a'i gysylltiadau â materion heddiw
* datblygu cysylltiadau â'r gymuned leol a chysylltu cymunedau lleol a byd-eang
* cefnogi dysgwyr i feddwl yn feirniadol ac yn greadigol
* galluogi dysgwyr i ddod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a'r byd (nod craidd o'r Cwricwlwm Newydd)
The key elements of the Peace Schools polan include:
* a whole school approach
* learners taking an active part in the planning and implementation in the school
* supporting learners to explore peace as a theme across the curriculum, together with extracurricular activities
* understand Wales' peace heritage, and its links to today's issues
* developing links with the local community and connecting local and global communities
* support learners to think critically and creatively
* enable learners to become ethical, informed citizens of wales and the world (a core aim of the New Curriculum)
Roedd ein gwaith o safon uchel ac wedi plesio'r beirniaid. O ganlyniad, cawsom ein gwobrwyo â statws Lefel 2 yn fuan ar ôl derbyn Lefel 1. Ymdrech arbenning gan bawb! Dyma ein cyflwyniad:
Our work was of a high standard and pleased the judges. As a result, we were awarded Level 2 status not long after Level 1. Excellent effort by everyone! Here is our presentation:
Gwobrau Heddychwyr Ifanc / Young Peacemakers Awards