Menu
YSGOL GYMRAEG TIRDEUNAW - 'O'r fesen, derwen a dÿf'
Home Page

Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw

O’r fesen derwen a dŷf

Ymweliadau Preswyl / Residential Visits

Yn 2023-2024 bydd YGG Tirdeunaw yn trefnu cyrsiau preswyl gyfer y disgyblion. Bydd yr ysgol yn trefnu trydydd ymweliad preswyl ar y cyd gyda chlwstwr Ysgol Gyfun Bryntawe fel rhan o'r cynllun pontio. Credwn fod yr ymweliadau yma yn hollbwysig fel rhan o’n cwricwlwm ac fel rhan o ddatblygiad personol a chymdeithasol ein disgylion. Datblygwn amrywiaeth o sgiliau gydol oes drwy’r ymweliadau yma hefyd. Rydyn ni’n creu atgofion am oes. Fodd bynnag, bydd yr ysgol yn danfon holiadur at rieni yn flynyddol er mwyn casglu barn am gost yr ymweliadau preswyl a drefnir gan yr ysgol. 

 

During 2023-2024 YGG Tirdeunaw will be arranging residential courses. The school will arrange a residential course within the Bryntawe cluster of schools as part of the transition programme.  We believe that these courses play a vital part within our curriculum. It also further develops the pupils’ personal and social skills. The pupils further develop a range of other life skills during these visits. We create memories that will last a lifetime. The school will send out a questionnaire annually to parents to gather views on the cost of the residential courses arranged by the school.

Blwyddyn 6: Gwersyll Yr Urdd, Llangrannog

Sefydlwyd Gwersyll Llangrannog yn 1932 fel gwersyll parhaol cyntaf Urdd Gobaith Cymru. Yn y ganolfan breswyl hon ar arfordir prydferth Ceredigion caiff plant a phobl ifanc gymdeithasu a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

https://www.urdd.cymru/cy/ein-gwersylloedd/llangrannog/

Gwersyll Llangrannog was founded in 1932 as Urdd Gobaith Cymru's first permanent centre. Situated on the stunning coast of West Wales the centre offers an opportunity for pupils to socialise and learn through the medium of Welsh.

Blwyddyn 5: Gwersyll Yr Urdd, Pentre Ifan

Dyma wersyll yr Urdd sy’n rhoi blaenoriaeth i’r amgylchedd, lles emosiynol pobl ifanc a’r Gymraeg mewn un profiad preswyl hudolus. Rhwng môr a mynydd yng Ngogledd Sir Benfro mae Gwersyll Pentre Ifan yn y lleoliad yn berffaith i drwytho pobl ifanc yn yr amgylchedd ac mewn llonyddwch.

https://www.urdd.cymru/en/residential-centres/pentre-ifan/amdanom-ni/ 

This Urdd centre gives priority to the environment, the emotional wellbeing of young people and the Welsh language in one magical residential experience. Between sea and mountain in North Pembrokeshire Gwersyll Pentre Ifan is perfectly situated to immerse young people in the environment and in tranquillity.

Cerdded Ceunant a Dringo ym Mhontneddfechan

Top